Psalms 100

Emyn o fawl

Salm o ddiolch.

1Gwaeddwch yn uchel i'r Arglwydd
holl bobl y byd!
2Addolwch yr Arglwydd yn llawen;
a dod o'i flaen gan ddathlu!
3Cyffeswch mai'r Arglwydd sydd Dduw;
Fe ydy'r un a'n gwnaeth ni,
a ni ydy ei bobl e –
y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.
4Ewch drwy'r giatiau gan ddiolch iddo,
ac i mewn i'w deml yn ei foli!
Rhowch ddiolch iddo!
A bendithio ei enw!
5Achos mae'r Arglwydd mor dda!
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd;
ac mae'n aros yn ffyddlon o un genhedlaeth i'r llall.
Copyright information for CYM